Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 25 Hydref 2024 a Dydd Gwener, 6 Rhagfyr 2024
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- L(PPR)01 - Yr Archifau Gwladol - Saesneg yn unig
PDF 245 KB - L(PPR)02 - Un Llais Cymru - Saesneg yn unig
PDF 83 KB Gweld fel HTML (2) 34 KB - L(PPR)03 - Open Spaces Society - Saesneg yn unig
PDF 172 KB - L(PPR)04 - Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
PDF 209 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn,
Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y
Bil.
Mae’r wybodaeth
ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn edrych
arno a sut y gallwch rannu’ch barn. Mae’r holl wybodaeth hefyd ar gael i’w
lawrlwytho fel dogfen
Microsoft Word. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r opsiynau hygyrchedd yn
y fersiwn Microsoft Word ar gael mewn dogfen
eglurhaol.
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor yn
ystyried:
>>>>
>>>egwyddorion
cyffredinol y Bil ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion
polisi a nodwyd;
>>>unrhyw
rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm
Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi
ystyriaeth ddigonol iddynt;
>>>a oes
unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;
>>>asesiad
Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil;
>>>pa
mor briodol yw’r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth;
>>>materion
yn ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw darpariaethau’r Bil yn
gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;
>>>y
cydbwysedd rhwng y wybodaeth sydd ar wyneb y Bil a hynny sydd wedi’i adael i
is-ddeddfwriaeth;
>>>unrhyw
fater sy’n ymwneud ag ansawdd y ddeddfwriaeth; a
>>>unrhyw
fater arall sy’n ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y
Bil.
Gwybodaeth am
y Bil
Os caiff ei
basio, bydd y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
yn:
>>>>
>>>tynnu
ynghyd a ffurfioli:
>*>*>*
***y trefniadau
gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru; a
***y gofynion ar
gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig, ac
is-ddeddfwriaeth arall nas gwneir drwy offeryn statudol.
<*<*<*
>>>gwella
hygyrchedd cyfraith Cymru drwy:
>*>*>*
***ddiddymu,
diwygio a datgymhwyso fel arall o ran Cymru ddarpariaethau a deddfiadau nad
ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach; a
***gwneud mân
ddiwygiadau i Ddeddf
Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
<*<*<*
<<<
Mae rhagor o
fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.
Sut i rannu’ch
barn
Rydym am sicrhau bod
ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy’n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a chymunedau y mae’r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o’r materion hyn i rannu’’ch barn, gan
wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a’i gwerthfawrogi.
I rannu eich barn
yn electronig, dylech ei anfon at SeneddDCC@senedd.cymru,
neu drwy’r post at:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno sylwadau yw 16.00 ar ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2024.
Ynghyd â’ch
cyflwyniad, dylech ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A
yw’ch tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os
ydych o dan 13 mlwydd oed, cadarnhad bod eich rhiant neu’ch gwarcheidwad yn
caniatáu i chi gymryd rhan (gellir gwneud hyn drwy’r e-bost).
>>>Gallwch
nodi y byddai’n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr
â’ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Gallwch
nodi yr hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gan roi rhesymau dros hynny.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, fel rhiant, priod neu
berthynas, rhaid i chi gadarnhau eu bod wedi cytuno y cewch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i’w hadnabod a’u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddLJC@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565