Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE
Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 30 Awst 2024 a Dydd Gwener, 8 Tachwedd 2024
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- TCA01 - Acanthophyllum Books - Saesneg yn unig
PDF 74 KB Gweld fel HTML (1) 32 KB - TCA02 - Pwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant - Senedd yr Alban - Saesneg yn unig
PDF 132 KB - TCA03 - Sefydliad Safonau Prydeinig - Saesneg yn unig
PDF 1 MB - TCA04 - Logistics UK - Saesneg yn unig
PDF 239 KB - TCA05 - Taith - Saesneg yn unig
PDF 129 KB Gweld fel HTML (5) 37 KB - TCA06 - Prifysgolion Cymru ac Addysg Uwch Cymru Brwsel - Saesneg yn unig
PDF 242 KB - TCA07 - Dr Elin Royles, Dr Carolyn Rowe a Dr Rachel Minto - Saesneg yn unig
PDF 207 KB - TCA08 - Make UK - Saesneg yn unig
PDF 10 MB - TCA09 - RSPCA Cymru - Saesneg yn unig
PDF 278 KB - TCA10 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
PDF 371 KB Gweld fel HTML (10) 96 KB - TCA11 - Teledwyr Annibynnol Cymru
PDF 239 KB - TCA12 - Horticultural Trades Association - Saesneg yn unig
PDF 297 KB - TCA13 - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain - Saesneg yn unig
PDF 441 KB - TCA14 - ABTA - Saesneg yn unig
PDF 260 KB - TCA15 - Undeb Amaethwyr Cymru - Saesneg yn unig
PDF 177 KB - TCA16 - Dr Richard Lang - Saesneg yn unig
PDF 210 KB - TCA17 - Cymru dros Ewrop
PDF 1 MB
Diben yr ymgynghoriad
Ers mis Ionawr
2021, mae’r berthynas rhwng y DU a’r UE wedi bod yn seiliedig ar gytundeb y
daethpwyd iddo ym mis Rhagfyr 2020, y
Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Rhaid i’r DU a’r UE adolygu gweithrediad
y cytundeb erbyn 2026, gyda thrafodaethau’n debygol o gael eu cynnal drwy gydol
2025.
Mae pwyllgorau’r
Senedd am glywed gan y cyhoedd, sefydliadau, a rhanddeiliaid yng Nghymru am sut
mae trefniadau’r DU a’r UE ar ôl Brexit wedi effeithio arnynt hyd yn hyn, a’u
blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r wybodaeth
ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych
arno a sut y gallwch rannu’ch barn. Mae'r holl wybodaeth hefyd ar gael i'w
lawrlwytho fel dogfen Microsoft Word. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r
opsiynau hygyrchedd yn y fersiwn
Microsoft Word ar gael mewn dogfen
eglurhaol.
Gan adeiladu ar
waith y maent eisoes wedi'i wneud, mae'r pwyllgorau a restrir isod yn casglu
tystiolaeth ar sut mae'r cytundeb yn gweithio yng Nghymru i sicrhau bod
safbwynt Cymru yn cael ei gynnwys yn y broses adolygu.
>>>>
>>>Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol;
>>>Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith;
>>>Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig;
>>>Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Cylch gorchwyl
Byddai’r
pwyllgorau’n croesawu eich barn ar:
>>>>
>>>eich profiadau o’r Cytundeb Masnach a
Chydweithredu ers iddo ddod i rym;
>>>meysydd cydweithredu rhwng y DU a’r UE
a gaiff eu cynnwys yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a meysydd na chânt eu
cynnwys;
>>>effeithiolrwydd y Cytundeb Masnach a
Chydweithredu yn ymarferol, gan gynnwys a yw unrhyw faterion gweithredu wedi
effeithio arnoch;
>>>rhannau o’r Cytundeb Masnach a
Chydweithredu nad ydynt wedi’u gweithredu’n llawn, er enghraifft, cyfranogiad y
DU yn rhaglenni’r UE neu gydnabod cymwysterau proffesiynol gan y ddwy
ochr;
>>>canlyniadau anfwriadol yr ydych wedi'u
profi; a
>>>newidiadau i’r berthynas rhwng y DU
a’r UE yr hoffech eu gweld.
<<<
Gallwch ddod o
hyd i ragor o wybodaeth gefndirol am y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a
Chymru ar wefan
Ymchwil y Senedd.
Sut i rannu’ch
barn
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu’’ch barn, gan
wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.
I rannu eich barn
yn electronig, dylech ei anfon at CytundebMasnachaChydweithredu@senedd.cymru
neu drwy'r post at:
Uned Gydgysylltu,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau wedi ei ymestyn i 16.00 ar ddydd Gwener 8 Tachwedd 2024.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A
yw’ch tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os
ydych o dan 13 mlwydd oed, cadarnhad bod eich rhiant neu’ch gwarcheidwad yn
caniatáu i chi gymryd rhan (gellir gwneud hyn drwy’r e-bost).
>>>Gallwch
nodi y byddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr
â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Gallwch
nodi yr hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gan roi rhesymau dros hynny.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, fel rhiant, priod neu
berthynas, rhaid i chi gadarnhau eu bod wedi cytuno y cewch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddLJC@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565