Ymgynghoriad

Gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad byr i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

 

Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar:

  • Pa mor effeithiol yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth gyflawni ei phrif swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol.
  • Swyddogaethau ymchwilio ac archwilio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn benodol ei chyfrifoldebau o ran sicrhau bod gan gleifion fynediad i wasanaethau diogel ac effeithiol, a pha mor ymatebol ydyw i achosion o bryder difrifol a methiannau systematig.
  • Datblygiad ac atebolrwydd cyffredinol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gan gynnwys a yw’r sefydliad yn addas i’r diben.
  • Pa mor effeithiol yw perthnasau gwaith, gan ganolbwyntio ar gydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, rhanddeiliaid allweddol a chyrff adolygu eraill.
  • Ystyried rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ran cryfhau llais cleifion a’r cyhoedd yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
  • Trefniadau diogelu, yn benodol trin chwythu’r chwiban a gwybodaeth am gwynion.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565