Cyflwyno mwy o annibyniaeth a chymorth i’r broses gwyno yn y Senedd

Cyflwyno mwy o annibyniaeth a chymorth i’r broses gwyno yn y Senedd

Diben yr ymgynghoriad

Ystyriodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (y Pwyllgor) yr opsiwn o gyflwyno proses gwyno annibynnol i’r Senedd. Ystyriodd wahanol fodelau a dulliau o fynd i’r afael â phryderon am y broses bresennol ac mae’n ystyried cyflwyno’r newidiadau a ganlyn i wella annibyniaeth yn y broses a gwella’r cymorth sydd ar gael.

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cynigion. Cyflwynwch eich ymateb erbyn 3 Rhagfyr 2025 i Seneddsafonau@Senedd.cymru.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565