Ymchwiliad i Urddas a Pharch

Ymchwiliad i Urddas a Pharch

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i Urddas a Pharch.

Cytunodd y Senedd ar bolisi urddas a pharch yn 2018 a oedd yn amlinellu’r hawl i bawb deimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn wrth ryngweithio â’r Senedd.

Roedd y polisi hwn yn berthnasol i Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth, a staff y Comisiwn. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd ymchwiliad i 'Creu'r Diwylliant Cywir' a oedd yn ceisio sicrhau bod diwylliant y Senedd yn un cadarnhaol ac agored.

 

Bum mlynedd ar ôl y gwaith, mae'r Pwyllgor yn awyddus i adolygu'r cynnydd a wnaed yn y maes hwn, sicrhau bod y sgwrs yn y maes hwn yn parhau, ac ystyried a ellid cymryd camau pellach.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2023

Ymgynghoriadau