Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 3 Tachwedd 2025 a Dydd Mercher, 19 Tachwedd 2025
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau yn
ceisio barn ynghylch Bil Senedd
Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Y cylch gorchwyl
y cytunwyd arno yw i’r Pwyllgor drafod y canlynol:
>>>>
>>>Egwyddorion
cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (Cymru) ac a
oes angen deddfwriaeth arnom i gyflawni amcanion polisi datganedig y Bil, sef
gwella atebolrwydd Aelodau o'r Senedd drwy:
>*>*>*
***gryfhau'r
systemau sy'n bodoli ar hyn o bryd i reoleiddio ymddygiad yr Aelodau ac i
benderfynu ar unrhyw gosbau;
***darparu
mecanwaith ar gyfer adalw Aelodau etholedig, a’u diswyddo yn ystod eu cyfnod
fel Aelod, ar sail ewyllys penodol pleidleiswyr yn yr etholaeth berthnasol;
***cryfhau proses
safonau’r Senedd fel y’i hystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan
gynnwys drwy ei gwneud yn ofynnol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau
Ymddygiad gorfodol a thrwy benodi aelodau lleyg;
***rhoi mwy o
hyblygrwydd i'r Comisiynydd Safonau ystyried yn rhagweithiol bryderon ynghylch
ymddygiad ac ymarweddiad Aelodau o'r Senedd; a
***diwygio pŵer Gweinidogion Cymru yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 i wneud darpariaeth ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd, yn benodol drwy osod dyletswydd
ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau
ffug.
<*<*<*
>>>Unrhyw
rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil, yn ogystal â’r Memorandwm
Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef, yn rhoi
ystyriaeth ddigonol i’r rhwystrau posibl hyn.
>>>A oes
unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil, gan gynnwys goblygiadau
posibl ar gyfer cynnal busnes y Senedd.
>>>Asesiad
Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil, fel y’u
nodir yn Rhannau 2 a 3 o'r Memorandwm Esboniadol.
>>>Priodoldeb
y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir yn
Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).
>>>Materion
sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw'r Bil yn gydnaws â’r
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
>>>Y
cydbwysedd rhwng y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar wyneb y Bil a’r hyn sydd
i’w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.
>>>Unrhyw
faterion yn ymwneud ag ansawdd y ddeddfwriaeth.
>>>Unrhyw
fater arall sy’n ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y
Bil.
<<<
Er mwyn i’ch barn
lywio ein gwaith craffu ar y Bil, byddem yn ddiolchgar o gael unrhyw ymateb
ysgrifenedig yr ydych am ei gyflwyno erbyn dydd Mercher, 19 Tachwedd 2025.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- MAB01 Yr Athro Jeremy Horder (Saesneg yn unig)
PDF 177 KB Gweld fel HTML (1) 53 KB - MAB02 Dr Ben Stanford (Saesneg yn unig)
PDF 215 KB - MAB03 Cathy Mason MLA, Cadeirydd y Pwyllgor ar Safonau a Rhagorfreintiau, Cynulliad Gogledd Iwerddon
(Saesneg yn unig)
PDF 117 KB Gweld fel HTML (3) 35 KB - MAB04 Yr Athro Alistair Clark (Saesneg yn unig)
PDF 243 KB Gweld fel HTML (4) 49 KB - MAB05 Crynwyr Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 160 KB Gweld fel HTML (5) 40 KB - MAB06 Un Llais Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 136 KB Gweld fel HTML (6) 37 KB - MAB07 Electoral Reform Society Cymru (ERS Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 883 KB Gweld fel HTML (7) 115 KB - MAB08 Unlock Democracy (Saesneg yn unig)
PDF 120 KB Gweld fel HTML (8) 33 KB - MAB09 Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, Senedd Cymru
PDF 273 KB - MAB10 Paul Evans a Paul Silk (Saesneg yn unig)
PDF 126 KB Gweld fel HTML (10) 45 KB - MAB11 Transparency International (UK) (Saesneg yn unig)
PDF 306 KB - MAB12 Undeb Gwasnaethau Cyhoeddus a Masnachol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 133 KB Gweld fel HTML (12) 44 KB - MAB13 Keith Bush CyB
PDF 264 KB - MAB14 Y Gw. Anrh. Elin Jones AS, Llywydd, Senedd Cymru
PDF 308 KB - MAB15 Y Comisiwn Etholiadol
PDF 201 KB Gweld fel HTML (15) 62 KB - MAB16 Elkan Abrahamson (Saesneg yn unig)
PDF 221 KB Gweld fel HTML (16) 44 KB - MAB17 Cymdeithas yr Iaith
PDF 217 KB Gweld fel HTML (17) 67 KB - MAB18 Jonathan Elystan Rees CyB ac Alexander Greenwood (Saesneg yn Unig)
PDF 77 KB - MAB19 Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd (Saesneg yn unig)
PDF 119 KB Gweld fel HTML (19) 40 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddBAA@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565