Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) (“y Bil”) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (“Y Pwyllgor”) ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Gwybodaeth am y Bil

Prif ddiben y Bil yw gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. Os caiff ei basio, bydd y Bil yn cyflawni hyn trwy ei gwneud yn drosedd:

>>>> 

>>>i weithredu stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a’i ddefnyddio, neu ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio, ar gyfer rasio milgwn; ac

>>>i fod yn rhan o drefnu rasio milgwn yng Nghymru.

<<< 

 

Ceir rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef.

 

I helpu i lywio ei waith craffu, mae'r Pwyllgor yn gofyn am sylwadau ar:

>>>> 

>>>Egwyddorion Y Bill Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni’r amcanion polisi, sef gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

>>>Y termau a ddefnyddir yn y Bil, p'un a ydynt wedi'u diffinio ai peidio. Yn benodol, a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni'r bwriad polisi a nodwyd.

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt.

>>>A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol.

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

>>>Materion sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw'r Bil yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

>>>Y cydbwysedd rhwng y wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar wyneb y Bil a’r hyn sydd i’w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater yn ymwneud ag ansawdd y ddeddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater arall sy’n ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y Bil.

<<< 

 

Cyflwyno’ch sylwadau

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â’i waith o ystyried y Bil.

 

Hoffem i chi gyflwyno’ch sylwadau drwy lenwi’r templed hwn y gellir ei lawrlwytho.

 

Rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich barn ond nad ydych eisiau/na allwch lenwi'r templed i’w lawrlwytho, ysgrifennwch at y Pwyllgor (SeneddDiwylliant@senedd.cymru) a gall clercod y Pwyllgor drefnu ffordd wahanol i'ch llais gael ei glywed.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Gwener 17 Hydref 2025.

Cyfeiriwch at dudalen y Bil i gael rhagor o wybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565