Bargeinion Dinesig a Thwf

Bargeinion Dinesig a Thwf

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig  yn cynnal ymchwiliad i Fargeinion Dinesig a Thwf.

 

Mae’r Pwyllgor yn ceisio deall y safbwynt diweddaraf mewn perthynas â phob un o’r pedair Bargen Ddinesig a Thwf, ac mae’n awyddus i edrych yn fanwl ar y meysydd a ganlyn:

>>>> 

>>>Hynt y gwaith hyd yma a’r amserlen ar gyfer ei wneud – gan gynnwys y cynnydd a wneir yn erbyn targedau, ac unrhyw bwysau neu heriau sy’n effeithio ar y gwaith

>>>Trafod rhai o’r prosiectau a’r buddsoddiadau pwysicaf – megis gorsaf bŵer Aberddawan yn achos Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (gan gynnwys goblygiadau ariannol posibl y setliad cyfreithiol sydd ar y gweill)

>>>Deall effaith y bargeinion – gan gynnwys lledaenu’r gweithgarwch yn rhanbarthol

>>>Llywodraethiant ac atebolrwydd democrataidd – gan gynnwys rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig

>>>Y buddsoddiad sydd ar gael yn y sector preifat

>>>Sut mae gweithgareddau’r Bargeinion Dinesig a Thwf yn cyd-fynd â’r dirwedd cymorth busnes ehangach – gan gynnwys adolygiad Llywodraeth Cymru o gymorth busnes, ac a oes cyfleoedd i gydweithredu a chydgysylltu’n fwy â Llywodraeth Cymru.

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 23 Mehefin 2025.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565