Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) ar gyfer craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y Bil yw darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cydgysylltiedig sy’n ddiogel, yn integredig, yn amgylcheddol gynaliadwy, yn effeithlon, yn economaidd ac yn ymateb i fodloni anghenion trafnidiaeth y cyhoedd.

 

Prif amcanion y Bil yw:

>>>> 

>>>Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi'r gwasanaethau bysiau lleol hynny sy'n ofynnol at y diben o ddarparu trafnidiaeth ddiogel, integredig, gynaliadwy, effeithlon ac economaidd yng Nghymru;

>>>Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ar Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru sy'n nodi manylion allweddol y gwasanaethau hynny, a chyhoeddi'r cynllun hwnnw;

>>>Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau y darperir y gwasanaethau hyn, i’r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, drwy gontractau gwasanaeth bysiau lleol (masnachfreinio), darpariaeth uniongyrchol, trwydded gwasanaeth bysiau lleol, neu drwy ddibynnu ar ddarpariaethau gwasanaethau o fath a grybwyllir yn adran 18;

>>>Galluogi awdurdodau lleol i greu cwmnïau bysiau cyngor newydd;

>>>Gwahardd darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru ac eithrio pan fydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau'r gwasanaethau hynny fel y disgrifir uchod, neu a ddarperir gan weithredwr arall o dan drwydded, neu o fewn rhai eithriadau cyfyngedig a bennir yn y Bil. Bydd y Bil hefyd yn galluogi i sancsiynau i gael eu gosod pan fo gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn groes i'r cyfyngiad hwn;

>>>Gwneud darpariaeth ar gyfer casglu data a rhannu gwybodaeth; a

>>>Galluogi i reoliadau i gael eu gwneud i gymhwyso Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (“TUPE”) i amgylchiadau penodol sy'n codi o'r Bil.

<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF 3.1MB) cysylltiedig.

>>>> 

>>>I helpu i lywio ei waith craffu, mae’r Pwyllgor yn casglu sylwadau ar:

>>>egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodwyd;

>>>darpariaethau’r Bil, gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd: 

>>>Cysyniadau allweddol ac amcanion cyffredinol (Rhan 1 adrannau 1 i 4);

>>>Swyddogaethau gweinidogion cymru sy’n ymwneud â gwasanaethau bysiau lleol (Rhan 2 adrannau 5 i 20);

>>>Cyfyngiad ar ddarparu gwasanaethau bysiau lleol (Rhan 3 adrannau 21 i 24);

>>>Gwybodaeth a data (Rhan 4 adrannau 25 i 31);

>>>Pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol (Rhan 5 adrannau 32 i 34);

>>>Amrywiol a chyffredinol (Rhan 6 adrannau 35 i 44);

unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau’r Bil ac a yw’r Bil yn eu hystyried, 

>>>priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol); 

>>>a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a 

>>>goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

<<< 

 

Cyflwyno eich barn

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

 

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylid cyflwyno ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

 

Rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich barn ond nad ydych eisiau/na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, ysgrifennwch at y Pwyllgor (SeneddHinsawdd@senedd.cymru) a gall clercod y Pwyllgor drefnu ffordd wahanol i'ch llais gael ei glywed. Mae cyfeiriad post a rhif ffôn y Pwyllgor i’w gweld ar ddiwedd y dudalen ymgynghori.

 

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 13 Mai 2025.

 

Cyfeiriwch at dudalen y Bil i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am y Bil.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565