Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu eich barn.

 

Cylch gorchwyl

Bydd adolygiad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

>>>> 

>>>Gweithrediad ac effeithiolrwydd Deddf 2019 hyd yma ac a yw wedi gwella rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) a chynyddu hyder y cyhoedd ynddo.

>>>Y ffordd y caiff y broses o dderbyn cwynion llafar gan yr Ombwdsmon ei chymhwyso’n ymarferol ac a yw gallu’r Ombwdsmon i nodi gofynion ar gyfer gwneud cwyn mewn canllawiau wedi gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal i ddinasyddion Cymru.

>>>Sut mae’r Ombwdsmon wedi arfer y pŵer i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun ac a ywr pŵer hwn wedi darparu mecanwaith i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

>>>Pa mor effeithiol yw gallu’r Ombwdsmon i ymchwilio i driniaeth feddygol breifat (gan gynnwys gofal nyrsio) ar lwybr iechyd cyhoeddus/preifat.

>>>Rôl yr Ombwdsmon mewn perthynas â safonau a gweithdrefnau ymdrin â chwynion ac i ba raddau y mae darpariaethau Deddf 2019 wedi gwella’r modd y mae cyrff o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn ymdrin â chwynion.

>>>I ba raddau y mae amcanion polisi Deddf 2019 wedi’u bodloni, unrhyw ddatblygiadau yn y pum mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf a sut mae’r Ddeddf yn cymharu ag arfer gorau presennol.

>>>Costau a buddion Deddf 2019, sut mae’r rhain yn cymharu â’r amcangyfrifon a nodir yn y Memorandwm Esboniadol a ph’un a gyflawnwyd gwerth am arian.

<<< 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565