Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad: Cynigion ar gyfer 2025-26

Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad: Cynigion ar gyfer 2025-26

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Bwrdd Taliadau wedi lansio ei ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 8 Ionawr 2025 i 19 Chwefror 2025.

 

Mae’r Bwrdd yn adolygu’r Penderfyniad ar gyflogau a lwfansau’r Aelodau yn flynyddol i sicrhau bod y lwfansau a ddarperir yn parhau’n briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Penderfyniad ar gael ar wefan y Bwrdd.

 

Mae manylion am gynigion y Bwrdd ar gyfer lwfansau yn y flwyddyn ariannol nesaf (2025-26) ar gael yn ei ddogfen ymgynghori.

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi preifatrwydd y Bwrdd cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yw 17.00 ar ddydd Mercher 19 Chwefror 2025. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy anfon e-bost at Taliadau@senedd.cymru

 

Dogfennau ategol