Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) ar gyfer craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, prif ddiben y Bil yw lleihau'r tebygolrwydd o dirlithriadau ar domenni glo nas defnyddir a thomenni nas defnyddir nad ydynt yn domenni glo drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.

 

Mae’r Bil yn cynnig:

>>>> 

>>>sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru (“yr Awdurdod”) fel corff corfforedig. Prif amcan yr Awdurdod, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Bil, yw sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd;

>>>gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir;

>>>cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r Awdurdod i ddelio ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Mae hyn yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau ac i’r Awdurdod gynnal gweithrediadau ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o’r fath;

>>>cynnwys darpariaethau atodol gan gynnwys pwerau mynediad i’r Awdurdod, darpariaethau rhannu gwybodaeth a phwerau i wneud gwybodaeth yn ofynno; a

>>>creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi’r drefn.

<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF 1.7MB) cysylltiedig.

 

I helpu i lywio ei waith craffu, mae’r Pwyllgor yn casglu sylwadau ar:

>>>> 

>>>egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodwyd;

>>>darpariaethau’r Bil, gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd:

>*>*>*

***Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru (Rhan 1 adrannau 1 i 5 a Atodlen 1);

***Asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir (Rhan 2 adrannau 6 i 32 a Atodlen 2);

***Ymdrin ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd Tomen (Rhan 3 adrannau 33 i 54 a Atodlen 3);

***Darpariaeth atodol (Rhan 4 adrannau 54 i 70);

***Cyffredinol (Rhan 5 adrannau 71 i 88);

<*<*<*

>>>unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau’r Bil ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

>>>priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);

>>>a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

>>>goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

<<< 

 

Cyflwyno eich barn

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

 

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylid cyflwyno ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

 

Rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich barn ond nad ydych eisiau/na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, ysgrifennwch at y Pwyllgor (SeneddHinsawdd@senedd.cymru) a gall clercod y Pwyllgor drefnu ffordd wahanol i'ch llais gael ei glywed.

 

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 17 Ionawr 2024.

 

Cyfeiriwch at dudalen y Bil i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am y Bil.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565