Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i edrych ar y potensial ar gyfer rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor.

 

Meysydd o ddiddordeb

Er mwyn helpu i lywio ei ystyriaeth o’r potensial i rannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor, mae’r Pwyllgor Busnes yn gofyn am farn ar:

>>>> 

>>>Egwyddorion a allai arwain unrhyw waith o ddatblygu model ar gyfer rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor;

>>>Manteision neu fuddion posibl a allai godi pan fydd Aelodau’n rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor, gan gynnwys i’r Aelodau, pwyllgorau, rhanddeiliaid a’r Senedd gyfan;

>>>Anfanteision neu heriau posibl a allai godi pan fydd Aelodau’n rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor, gan gynnwys i’r Aelodau, pwyllgorau, rhanddeiliaid a’r Senedd gyfan;

>>>Sylwadau ar effaith bosibl Aelodau’n rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor ar gapasiti cyffredinol y Senedd i graffu;

>>>Awgrymiadau ar gyfer unrhyw faterion ymarferol neu fanwl y byddai angen eu hamlinellu yn Rheolau Sefydlog y Senedd, neu unrhyw ganllaw/protocol cysylltiedig, yn ymwneud â gweithredu rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor;

>>>Unrhyw rwystrau gweithdrefnol neu rwystrau eraill posibl i weithredu rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor, neu effeithiolrwydd hynny, a sut y gellid mynd i’r afael â’r rhain;

>>>Unrhyw enghreifftiau perthnasol o fodelau rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor neu gorff tebyg arall, ac unrhyw ystyriaethau ar gyfer eu gweithredu;

>>>Unrhyw fater arall yn ymwneud ag ystyried rhannu swydd yn rôl cadeirydd pwyllgor.

<<< 

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor Busnes yn ymwybodol o natur newydd rhannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a'r cyfleoedd a'r heriau posibl y gallai trefniadau o'r fath eu cyflwyno mewn lleoliad seneddol. Ar y sail honno, mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnal galwad wedi'i thargedu am dystiolaeth ond mae’n annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich barn, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich tystiolaeth ysgrifenedig erbyn 17 Medi 2024. Gallwch ymateb i unrhyw un neu bob un o'r pwyntiau bwled uchod.

 

Anfonwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddBusnes@senedd.cymru

 

Byddem yn eich annog i gadw eich ymateb yn gryno a chanolbwyntio ar y pwyntiau allweddol yr hoffech dynnu sylw'r Pwyllgor atynt. Sylwch fod y Pwyllgor Busnes yn bwriadu adolygu unrhyw dystiolaeth berthnasol a gasglwyd gan bwyllgorau'r Senedd flaenorol a'r Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol. Ffocws yr ymarfer hwn yw casglu rhagor o dystiolaeth yn ymwneud yn benodol â chadeiryddion pwyllgorau.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pywllgor Busnes
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddBusnes@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565