Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i edrych ar y potensial ar gyfer rhannu swydd cadeirydd pwyllgor.

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae diddordeb wedi datblygu yn rôl bosibl rhannu swyddi yng nghyd-destun swyddi seneddol. Mae hefyd yn fater sydd wedi’i godi fel rhan o’r ystyriaeth a roddwyd i ddiwygio’r Senedd.

 

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi dewis canolbwyntio i ddechrau ar y rôl hon – a’r rôl hon yn unig - ar y sail na ddisgwylir y bydd angen unrhyw newidiadau i’r gyfraith os yw’r Senedd yn dewis cyflwyno trefniadau o’r fath ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau. Yn amodol ar gytundeb y Senedd, gallai fod yn bosibl felly i’r fframwaith gweithdrefnol ac ymarferol angenrheidiol fod ar waith cyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026.

 

Casglu tystiolaeth

 

Cyfnod 1

Mae’r Pwyllgor Busnes yn ymwybodol o natur newydd rhannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a’r cyfleoedd a’r heriau posibl y gallai trefniadau o’r fath eu cyflwyno mewn lleoliad seneddol. Ar y sail honno, cynhaliodd y Pwyllgor Busnes alwad wedi’i thargedu am dystiolaeth a ddaeth i ben ar 17 Medi 2024.

 

Cyfnod 2

Yn nhymor yr hydref, cynhaliodd y Pwyllgor Busnes ail gyfnod ymgynghori. Roedd yn canolbwyntio ar Aelodau o’r Senedd, grwpiau gwleidyddol y Senedd, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, Comisiwn y Senedd a Fforwm y Cadeiryddion. Roedd yn gofyn eu barn ar gyfres o gynigion a oedd yn adlewyrchu ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o ganlyniadau’r alwad wedi’i thargedu am dystiolaeth a wnaed yn ystod cyfnod 1.

 

Mae’r Pwyllgor Busnes yn disgwyl, os bydd y gwaith yn arwain at gynnig bod y Senedd yn cyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau, y disgwylir iddynt fod yn drefniadau peilot er mwyn llywio dull y Senedd ar gyfer rhannu swyddi yn y dyfodol, ond heb fod yn gwbl haearnaidd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/07/2024

Ymgynghoriadau