Ymgynghoriad

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (‘y Bil’) wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu’ch barn.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn trafod:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni’r amcanion polisi a nodir yn y Bil (gweler tudalen y Bil am ragor o fanylion).

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt.

>>>A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil.

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y’u nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol.

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

>>>Materion sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw Biliau’n gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

>>>Y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater arall yn ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y Bil.

<<< 

 

Gwybodaeth am y Bil

Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a'i amcanion polisi ar gael ar dudalen y Bil.

 

Sut i rannu’ch barn

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd yn y materion hyn neu brofiad ohonynt i rannu eich barn, gan wybod y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Gallwch anfon eich sylwadau’n electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddTai@senedd.cymru, neu eu hanfon drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 17.00 ddydd Llun 15 Ionawr 2024.

 

Byddem yn eich annog i gadw’ch ymateb yn gryno a chanolbwyntio ar y pwyntiau allweddol yr hoffech eu dwyn i sylw'r Pwyllgor.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw’ch tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cadarnhad bod eich rhiant neu’ch gwarcheidwad yn caniatáu i chi gymryd rhan (gellir gwneud hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai’n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gan roi rhesymau dros hynny.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565