Ymgynghoriad
Ymchwil a Datblygu
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 4 Hydref 2023 a Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- RD01 - Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd [Saesneg yn unig] PDF 3 MB
- RD02 - Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru (FSB) [Saesneg yn unig] PDF 372 KB
- RD03 - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) [Saesneg yn unig] PDF 460 KB
- RD04 - Prifysgol Metropolitan Caerdydd [Saesneg yn unig] PDF 469 KB
- RD05 - Cymdeithas Ddysgedig Cymru [Saesneg yn unig] PDF 244 KB
- RD06 - Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (BHF) [Saesneg yn unig] PDF 357 KB
- RD07 - ColegauCymru [Saesneg yn unig] PDF 285 KB
- RD08 - Moderna Biotech UK Limited [Saesneg yn unig] PDF 150 KB
- RD09 - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) PDF 441 KB
- RD10 - Prifysgol Bangor [Saesneg yn unig] PDF 339 KB
- RD11 - Grŵp Rhannau Menter Gymdeithasol PDF 281 KB
- RD12 - Prifysgol Abertawe (Cymraeg i ddilyn) PDF 201 KB
- RD13 - Prifysgol Caerdydd [Saesneg yn unig] PDF 345 KB
- RD14 - Prifysgolion Cymru [Saesneg yn unig] PDF 334 KB
- RD15 - Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth [Saesneg yn unig] PDF 268 KB
- Gwybodaeth ychwanegol - UK Research and Innovation (UKRI) [Saesneg yn unig] PDF 118 KB
- Gwybodaeth ychwanegol - Prifysgolion Cymru [Saesneg yn unig] PDF 94 KB
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
Alwad Agored am Safbwyntiau
Cyhoeddodd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar
gyfer ymchwiliad ‘cipolwg’ undydd i asesu sefyllfa bresennol y dirwedd ymchwil,
datblygu ac arloesi yng Nghymru ac effeithiolrwydd y canlynol:
>>>>
>>>Ariannu
cyhoeddus: gan gynnwys lefelau ariannu; rhwystrau i fynediad; gwahaniaethau
rhanbarthol ar draws y DU a Chymru
>>>Cydweithio:
rhwng prifysgolion a diwydiant
>>>Cefnogaeth
i fusnesau Cymreig: trwy ymchwil a datblygiad
>>>Dull
gweithredu Llywodraeth Cymru: gan gynnwys ei Strategaeth Arloesi
ddiweddar
<<<<
Sut i
rannu eich barn
Roedd yn dda
gan y Pwyllgor gael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion y
cyfeirir atynt yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:
>>>>
>>>Pa
heriau y mae busnesau Cymru yn eu hwynebu o ran ymwybyddiaeth o gyllid ymchwil
a datblygu cyhoeddus a mynediad ato?
>>>Pa
wahaniaethau sydd rhwng cyllid ar gyfer prifysgolion a chyllid ar gyfer arloesi
yn y diwydiant? A oes gwahaniaethau rhanbarthol yn y dyraniad cyllid?
>>>A
yw diddordebau ymchwil prifysgolion a diwydiant yn wahanol ac, os felly, pa
gamau y gellir eu cymryd a chan bwy i sicrhau y darperir ar gyfer buddiannau'r
ddau sector?
>>>Sut
gall prifysgolion a busnesau ryngweithio a chydweithio’n well â’i gilydd?
>>>Pa
mor effeithiol yw Strategaeth
Arloesi Llywodraeth Cymru yn debygol o fod o ran cefnogi ymchwil, datblygu
ac arloesi yng Nghymru?
>>>Cynnydd
a mewn cysylltiad ag ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad y Bumed Senedd ar ymchwil ac arloesi yng
Nghymru.
<<<<
Y dyddiad
cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 15 Tachwedd 2023.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y
Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, croesawodd y Pwyllgor gyfraniadau yn y naill
neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gwnaethom ofyn i
sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith
Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565