Ymgynghoriad

Blaenoriaethau i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Yn nhymor yr hydref 2021, aeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith  (‘y Pwyllgor’) ati  i bennu ei Flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd (2021-26).  Dyma dair blaenoriaeth strategol y Pwyllgor: Newid Hinsawdd; Cymunedau Cynaliadwy; a Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol.

 

Gosododd y Pwyllgor amserlen ddangosol ar gyfer pob blaenoriaeth.  Er bod y Pwyllgor wedi cwblhau llawer o'r gwaith yr oedd yn bwriadu ei wneud hyd yma, mae rhywfaint o’r gwaith wedi’i ohirio naill ai er mwyn craffu ar Filiau'r Senedd neu oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Pwyllgor.

 

Pam mae’r Pwyllgor yn adolygu ei flaenoriaethau?

Wrth inni ddechrau trydedd flwyddyn y Chweched Senedd, mae'r Pwyllgor yn awyddus i adolygu ei flaenoriaethau i sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol.

 

I helpu i lywio’r adolygiad hwn, mae'r Pwyllgor yn gofyn am sylwadau ar y materion a ganlyn:

>>>> 

>>>    y tair blaenoriaeth strategol: Newid Hinsawdd; Cymunedau Cynaliadwy; a Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol.

>>>    ei flaenoriaethau manwl/rhaglen waith amlinellol ar gyfer Blynyddoedd 3 i 5 o’r Chweched Senedd (a nodir yn ei adroddiad, Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.

<<<< 

 

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn awyddus i wybod a ydych yn credu bod yr uchod yn dal yn berthnasol, gan ystyried y datblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a welwyd ers i'r blaenoriaethau gael eu pennu ar ddechrau'r Chweched Senedd.

 

Byddai’r Pwyllgor hefyd yn croesawu sylwadau ar unrhyw faterion eraill yn ymwneud â’i flaenoriaethau/rhaglen waith/ffyrdd o weithio sydd, yn eich barn chi, yn berthnasol i’w adolygiad.

 

Cyflwyno’ch sylwadau

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w helpu i adolygu ei flaenoriaethau.

Hoffem i chi gyflwyno’ch sylwadau drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

 

Mae templed ar gael i’w lawrlwytho er mwyn drafftio’ch ymateb cyn ei gyflwyno, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â chyflwyno eich ymateb i'r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy’r e-bost. Dylid cyflwyno pob ymateb drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 15 Medi 2023.

 

Y camau nesaf

Bydd y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaw i law yn helpu i lywio penderfyniadau’r Pwyllgor yn y dyfodol ynghylch ei flaenoriaethau a’i raglen waith.

 

Mae'r Pwyllgor yn gobeithio cyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau erbyn diwedd tymor yr hydref 2023.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565