Ymgynghoriad

Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad: Cynigion ar gyfer 2023-24

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 9 Ionawr 2023 a 9 Chwefror 2023.

 

Mae’r Bwrdd yn adolygu’r Penderfyniad ar gyflogau a lwfansau’r Aelodau yn flynyddol i sicrhau bod y lwfansau a ddarperir yn parhau’n briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Penderfyniad ar gael ar wefan y Bwrdd.

 

Mae manylion am gynigion y Bwrdd ar gyfer lwfansau yn y flwyddyn ariannol nesaf (2023-24) ar gael yn ei ddogfen ymgynghori.

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi preifatrwydd y Bwrdd cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth oedd 17.00 ar ddydd Iau 9 Chwefror 2023. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy anfon e-bost at Taliadau@senedd.cymru.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565