Ymgynghoriad

Digartrefedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ymgymryd â gwaith ar ddigartrefedd.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at randdeiliaid wedi'u targedu ym mis Ionawr 2022 i wahodd eu barn ar y sefyllfa o ran digartrefedd ar y pryd a sawl mater penodol.

 

Ym mis Hydref 2022 cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a nodir isod ac ysgrifennodd eto at randdeiliaid wedi'u targedu i wahodd eu barn arno.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i edrych yn fanwl ar:

>>>> 

>>>Cyflenwad, addasrwydd ac ansawdd y llety dros dro sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gartrefu pobl sy'n ddigartref a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt;

>>>Yr effaith y caiff byw mewn llety dros dro ei chael ar unigolion a theuluoedd;

>>>Effaith y galw parhaus am lety dros dro ar awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth, eu partneriaid a’u cymunedau;

>>>Opsiynau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a phriodol yn y tymor byr i ganolig, er mwyn lleihau’r defnydd o lety dros dro;

>>>Cynnydd o ran gweithredu Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru: Cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026, ac yn arbennig y symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym.

<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565