Ymgynghoriad

Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig newydd ym mis Ebrill 2021, gan ddisodli Gwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru. Mae ei rolau o ran trawsnewid darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys: darparu atebion digidol newydd, cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern, a gwella dulliau o ddefnyddio, rhannu a storio data.

 

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i gynnal sesiwn graffu ar y cyd gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

 

Yn benodol, bydd y Pwyllgorau yn ystyried:

>>>> 

>>>    Y broses o sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r cynnydd yn y flwyddyn gyntaf, y cynnydd a gyflawnwyd a'r heriau sy'n weddill.

>>>    Y cynnydd a wnaed ar argymhellion adroddiadau Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd.

>>>    Blaenoriaethu a’r gallu i reoli'r rhaglen waith a'r agenda newid, gan gynnwys y gweithlu, materion yn ymwneud â sgiliau, seiberddiogelwch ac unrhyw feysydd o bwysau neu bryder penodol.

>>>    Y gydberthynas â byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys grwpiau cleifion a chleifion.

>>>    Capasiti’r gweithlu a sgiliau o fewn cyrff iechyd a gofal eraill; a oes ganddynt ddigon o gapasiti i ymgysylltu a'r effaith bosibl ar gyflawni blaenoriaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

>>>    Asesu effaith gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac a yw'n cyflawni ei amcanion.

>>>    Tryloywder data, hygyrchedd, ansawdd a chymaroldeb â data iechyd a gofal cymdeithasol a dangosyddion perfformiad allweddol ledled y DU.

<<< 

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan ystod amrywiol o brofiadau, anghenion a safbwyntiau.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r meysydd a amlygwyd yn y cylch gorchwyl i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 23 Medi 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

 

>>>> 

>>>    Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>    A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>    Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>    Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>    Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>    Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>    Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi

<<< 

 

Sut i rannu eich barn

I rannu eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565