Ymgynghoriad

Grwpiau Trawsbleidiol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Grwpiau Trawsbleidiol yw grwpiau wedi’u sefydlu gan Aelodau o’r Senedd mewn perthynas ag unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol i’r Senedd gyda chynrychiolwyr o o leiaf dri grŵp plaid a gynrychiolir yn y Senedd. Gall aelodau allanol ymuno hefyd. Mae grwpiau o’r fath yn rhan werthfawr o’r broses ddemocrataidd ac yn cynnig fforwm i Aelodau o wahanol grwpiau gwleidyddol drafod buddiannau a rennir mewn meysydd pwnc sy’n berthnasol i’r Senedd.

 

Yn 2013, cafodd cyfres o Reolau ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol eu mabwysiadu gan y Senedd. Yn ogystal â nodi gofynion Aelodaeth mae’r rheolau hyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i grwpiau:

>>>> 

>>>ethol Cadeirydd ac ysgrifennydd, ac mae’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn Aelod o’r Senedd; a

>>>chyflwyno gwybodaeth berthnasol o fewn amserlenni penodedig i'r Swyddfa Gyflwyno gan gynnwys rhybudd ymlaen llaw o gyfarfodydd, cofnodion, ac adroddiad blynyddol a datganiad ariannol o fewn 12 mis i'r adeg y cofrestrwyd y grŵp am y tro cyntaf.

<<< 

 

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi cytuno i adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer Grwpiau Trawsbleidiol i ystyried a yw’r rheolau yn darparu canllawiau digonol, a ydynt yn glir, yn hygyrch ac yn dryloyw i randdeiliaid allweddol ac a ydynt yn parhau i fod yn addas i’r diben yn ystod y Chweched Senedd.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565