Ymgynghoriad

Ymchwiliad i asedau cymunedol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn cynnal ymchwiliad i asedau cymunedol, gan ganolbwyntio’n benodol ar rwystrau a chyfleoedd i gymunedau gaffael asedau adeiledig at ddefnydd cymunedol. Bydd y Pwyllgor yn archwilio sut mae’r fframwaith statudol a pholisi yn annog ac yn cefnogi datblygiad asedau cymunedol er budd cymunedau. Mae’r materion i’w hystyried yn cynnwys y canlynol:

>>>> 

>>>A yw’r fframwaith statudol a pholisi presennol yn grymuso cymunedau yng Nghymru i ddatblygu asedau cymunedol;

>>>I ba raddau y mae cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn hyrwyddo ac yn cefnogi datblygiad effeithiol asedau cymunedol;

>>>Archwilio’r rhwystrau a’r heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth gymryd perchnogaeth o asedau sy’n eiddo cyhoeddus neu breifat, gan gynnwys cyllid a gwasanaethau cymorth;

>>>Darganfod pa wersi y gellir eu dysgu o du hwnt i ffiniau Cymru.

<<< 

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 24 Mehefin 2022.

 

Cyflwyno tystiolaeth

Os ydych am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddTai@senedd.cymru neu anfonwch drwy'r post at:

 

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.

 

Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565