Ymgynghoriad
Craffu ar Fframweithiau Cyffredin
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 25 Chwefror 2022 a Dydd Gwener, 1 Ebrill 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CF01 - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Saesneg yn unig) PDF 205 KB
- CF02 - RSPCA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 464 KB
- CF03 - Maynooth University, Co Kildare (Saesneg yn unig) PDF 288 KB
- CF04 - Undeb Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 629 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig yn casglu sylwadau ar y Fframweithiau Cyffredin sydd o fewn ei
gylch gwaith.
Diben yr
ymgynghoriad
Gan fod cyfnod
pontio Brexit bellach wedi dod i ben, gall Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau
datganoledig ddefnyddio dulliau gwahanol mewn meysydd polisi a oedd gynt yn
cael eu llywodraethu neu eu cydgysylltu ar lefel yr UE. Yn 2017, penderfynodd y
Llywodraethau eu bod am reoli gwahaniaethau mewn perthynas â rhai o’r meysydd
polisi hyn. I wneud hyn, gwnaethant benderfynu
sefydlu 'Fframweithiau Cyffredin' mewn rhai meysydd polisi yn unol â
chyfres o chwe maen prawf. Yn gyffredinol, mae Fframweithiau
Cyffredin yn gytundebau anneddfwriaethol rhwng y pedair Llywodraeth, sy’n
nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd a sut y byddant yn penderfynu pryd
i ddilyn yr un rheolau a phryd i ymwahanu.
Mae gan bob un o
bedair deddfwrfa'r DU gyfle i graffu ar Fframweithiau Cyffredin dros dro ac i
wneud argymhellion cyn i’r fersiynau terfynol gael eu cwblhau gan Weinidogion. Mae’r Pwyllgor yn ystyried Fframweithiau
Cyffredin dros dro o fewn ei gylch gwaith ar y materion a ganlyn:
>>>>
>>>Gwrteithwyr
>>>Amrywogaethau
a hadau planhigion
<<<<
Mae'r Pwyllgor
eisoes wedi dechrau cymryd tystiolaeth mewn perthynas â'r Fframwaith Cyffredin
dros dro ar Reoli a Chefnogi Pysgodfeydd.
Mae’r Pwyllgor yn
gofyn i chi rannu eich barn ar y fframweithiau, a hynny at ddibenion llywio ei
waith craffu.
Sut i rannu eich
barn
Byddai’r Pwyllgor
yn gwerthfawrogi eich sylwadau ar unrhyw un o’r Fframweithiau Cyffredin hyn, ac
yn enwedig ar y materion a ganlyn:
>>>>
>>>sut y
gallent lywio’r broses o ddatblygu cyfreithiau a pholisïau Cymru; a
>>>sut y
gallent effeithio ar eich sefydliad.
<<<<
Gallwch rannu
eich sylwadau drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@Senedd.Cymru. Fel
arall, gallwch anfon eich sylwadau drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach
a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Bydd y Pwyllgor
yn trafod y Fframweithiau yn ystod ei gyfarfod ar 17 Mawrth. Felly, bydd unrhyw
sylwadau sy’n dod i law erbyn dydd Mercher 9 Mawrth yn arbennig o
ddefnyddiol i’r Aelodau. Bydd sylwadau sy’n cael eu hanfon atom ar ôl y dyddiad
hwnnw yn parhau i fod yn destun ystyriaeth gan y Pwyllgor, cyn belled â'u bod
yn dod i law erbyn 1 Ebrill 2022.
Er eglurder, nid
oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyno sylwadau. Gallwch rannu eich barn yn
electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@Senedd.Cymru. Fel
arall, gallwch anfon eich sylwadau drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach
a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Os oes gennych
unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi
gysylltu â ni.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565