Ymgynghoriad

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghorodd y Bwrdd Taliadau ar yr Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ym mis Rhagfyr 2020. Gofynnwyd am farn am y cynigion a amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori (PDF 1MB).

 

Cyhoeddwyd y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ar 4 Mehefin 2020, a daeth i rym ar y diwrnod cyntaf ar ôl etholiad nesaf y Senedd.

 

Mae’r Senedd wedi gweld newidiadau sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf o ran ei phwerau a’i chyfrifoldebau ac o ran disgwyliadau o’r sefydliad a’i Aelodau. Yn ogystal â bodloni gofynion newid cyfansoddiadol, mae Aelodau o’r Chweched Senedd hefyd yn debygol o wynebu’r her o gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn erbyn cefndir

argyfwng iechyd byd-eang parhaus a'r effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cysylltiedig.

 

Fel Bwrdd newydd (fe’i sefydlwyd ym mis Medi 2020), roedd angen ystyried sawl mater nad oeddent wedi’u datrys er mwyn cwblhau'r Penderfyniad ar gyfer tymor nesaf y Senedd yng ngoleuni'r amgylchiadau eithriadol oherwydd pandemig COVID-19. Bwriad y cynigion yn nogfen yr ymgynghoriad oedd rhoi mwy o eglurder i’r Aelodau a'u staff ar yr adeg ansicr hon.

 

Mae'r cynigion yn y ddogfen ymgynghori’n adlewyrchu pwyslais y Bwrdd ar werth am arian a gwneud penderfyniadau sy'n briodol yng nghyd-destun amgylchiadau ariannol ehangach Cymru, gan hwyluso gwaith yr Aelodau ar yr un pryd.

 

Mae pwysigrwydd meithrin perthynas waith effeithiol a phriodol rhwng y Bwrdd a'r Aelodau a'u staff yn glir.

 

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, a byddwn yn nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi preifatrwydd y Bwrdd cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth oedd dydd Iau 11 Chwefror 2021. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

You can submit your views by emailing Remuneration@senedd.wales.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565