Ymgynghoriad
Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 14 Mai 2018 a Dydd Llun, 18 Mehefin 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- FW 01 Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru PDF 2 MB
- FW 02 ClientEarth (Saesneg yn unig) PDF 119 KB Gweld fel HTML (2) 75 KB
- FW 03 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- FW 04 Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai (Saesneg yn unig) PDF 620 KB
- FW 05 Ymchwilwyr – Prifysgol Gorllewin yr Alban (Saesneg yn unig) PDF 593 KB
- FW 06 Porthladd Aberdaugleddau (Saesneg yn unig) PDF 457 KB Gweld fel HTML (6) 66 KB
- FW 07 New Economics Foundation (Saesneg yn unig) PDF 587 KB
- FW 08 Cyngor Sir Penfro PDF 268 KB Gweld fel HTML (8) 13 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i
effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru. Dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl
mewn ymateb i'r cwestiynau canlynol. Mae croeso i chi fynd i'r afael ag unrhyw
faterion eraill yn eich ymateb:
- I ba raddau y mae polisïau pysgodfeydd a mesurau rheoli ehangach Cymru
yn sicrhau'r canlyniadau dymunol?
- Pa ganlyniadau a pholisïau y mae Cymru am eu gweld yn sgil Bil
Pysgodfeydd y DU? Sut y gall polisïau adlewyrchu orau anghenion sectorau
gwahanol, gan gynnwys y diwydiant pysgota, dyframaethu a chymunedau
arfordirol?
- Beth yw'r prif heriau a chyfleoedd ar gyfer pysgodfeydd yn ystod y
cyfnod pontio ac ar ôl Brexit?
- Pa mor effeithiol yw gwaith ymgysylltu Llywodraeth Cymru â Llywodraeth
y DU ar bysgodfeydd? A yw buddiannau Cymru yn cael ystyriaeth ddigonol yn
nhrafodaethau Brexit?
Anfonwch eich sylwadau atom drwy gyfrwng e-bost at seneddNHAMG@cynulliad.cymru. Gofynnwn am yr
holl gyfraniadau cyn 18 Mehefin 2018. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn
ystyried yr ymatebion ac yn penderfynu sut i symud ymlaen â'r ymchwiliad.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565