Ymgynghoriad

Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Bil Llywodraeth a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AC. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

Ystyried—

1. egwyddorion cyffredinol y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i wella ymateb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru i gam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol, gan gynnwys:

  • cyhoeddi strategaethau cenedlaethol a lleol a
  • phenodi Cynghorydd Gweinidogol ar Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

2. unrhyw rwystrau posibl i roi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

3. a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,

4. goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol,

5. priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisiau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: Pwyllgor.CCLlG@cymru.gov.uk

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn 5 Medi 2014. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol