Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Peth pwerus yw HUG: dyfodol technoleg gynorthwyol ym maes gofal

Dyddiad: Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae gan yr HUG, a luniwyd ar gyfer pobl â dementia, gorff meddal a phwysau yn ei freichiau. Gyda’i galon sy’n curo a’i gerddoriaeth, mae’n beth anwes sy’n gallu cysuro pobl â dementia datblygedig a rhoi ymdeimlad o ymgysylltu iddynt. Cafodd ei ddatblygu drwy ymchwil prifysgol a oedd yn cynnwys y GIG, cartrefi gofal, dylunwyr, technolegwyr, elusennau, pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd. Gwnaeth gwaith gwerthuso ddangos buddion yr HUG fel cysurwr, a chafwyd prawf o’i allu i leddfu pryder a thawelu’r corff a’r meddwl. Mae’r HUG yn stori o lwyddiant arloesi Cymreig! Cafodd ei gynllunio, ei ddatblygu a’i werthuso yng Nghymru. Ers iddo gael ei lansio fel cynnyrch deillio mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Altzheimer, mae’r HUG wedi bod yn gwerthu dros y byd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn treialu’r HUG mewn lleoliadau gofal gyda chanlyniadau cadarnhaol, a bydd yn rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau hwn yn ystod y digwyddiad. Mae’r digwyddiad yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol o’r byrddau cymdeithasol, gwasanaethau gofal iechyd, elusennau a gofalwyr i glywed am rinweddau’r HUG ac i edrych tua’r dyfodol parthed technoleg gynorthwyol ym maes gofal.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr