Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia

Dyddiad: Dydd Mawrth 31 Hydref 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Eleni, bydd lansiad Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia yng Nghymru yn cael ei gynnal yn y Senedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o Islamoffobia a thynnu sylw at gyfraniadau cadarnhaol Mwslimiaid yn y DU. Thema ymgyrch eleni yw #StorïauMwslim. Nod yr ymgyrch eleni yw hwyluso cysyllatiadau rhwng unigolion o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys Mwslimiaid a phobl na ydynt yn Fwslimiaid, gan ddefnyddio grym trawsnewidiol adrodd storïau. Mae gan bawb stori i’w hadrodd. Gall fod yn seiliedig ar eu profiad eu hunain neu ar brofiadau rhywun maent yn ei edmygu. Fell beth am gymryd rhan drwy rannu ein storïau a sbarduno sgyrsiau ystyrlon a difyr.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr