Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio Tŷ Atgofion Cymru

Dyddiad: Dydd Llun 2 Hydref 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bydd ein digwyddiad yn dathlu lansio Tŷ Atgofion Cymru, sef rhaglen ymwybyddiaeth dementia a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl a chonsortiwm o 14 o amgueddfeydd ledled Cymru: Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cymru, Canolfan Ddiwylliant Conwy, Amgueddfa Ceredigion, Amgueddfa Forwrol Llŷn, MônLife, Amgueddfa Caerdydd, Oriel Môn, Amgueddfa Penmaenmawr, Amgueddfa Sir Faesyfed, Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa’r Tŷ Weindio, Amgueddfa’r Gaer ac Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen wedi’i llunio yn Gymraeg a Saesneg ac mae wedi’i seilio ar gasgliadau amgueddfeydd sy’n cynrychioli treftadaeth Cymru mewn lleoliadau gwledig a threfol, gyda’r nod o greu cysylltiadau hirhoedlog rhwng amgueddfeydd Cymru a’r rhwydweithiau gofal sy’n cefnogi pobl hŷn a phobl sy’n byw gyda dementia ledled Cymru.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr