Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Ail-lunio Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghymru
Dyddiad: Dydd Mercher 13 Medi 2023
Amser: 12.00 - 13.30
Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Ail-lunio Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghymru: Ymunwch â ni ar gyfer derbyniad amser cinio i wybod mwy am uchelgais y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol i ddarparu marchnad gwasanaethau cyfreithiol sy'n diwallu anghenion cymdeithas yn well. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i’r holl Aelodau o'r Senedd a'u cydweithwyr. Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol hefyd yn gwahodd cyfreithwyr sy'n ymarfer yng Nghymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o ysgolion y gyfraith yng Nghymru, asiantaethau cynghori a sefydliadau defnyddwyr.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr