Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Digwyddiad i lansio Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth

Dyddiad: Dydd Iau 15 Mehefin 2023

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Mae prosiect Deunyddiau Cwricwlwm Gwrth-hiliaeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach yn nodi moment bwysig o fewn addysg brif-ffrwd yn y DU, gan adolygu’r cwricwlwm o safbwynt hil. Ni aethpwyd ati erioed o’r blaen i wneud gwaith o’r fath ar lefel genedlaethol gyda’r nod beiddgar o adolygu’r cwricwlwm mewn ffordd radical i adlewyrchu hunaniaethau cymunedau Duon ac Ethnig Leiafrifol. Mae’r prosiect wedi dwyn ynghyd academyddion ac arweinwyr blaenllaw o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt ac edrychwn ymlaen at ddathlu’r lansiad.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr