Digwyddiad

DIGWYDDIAD: DEC Cymru: Apêl Ddyngarol Wcráin

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mawrth 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd a'r Oriel, Senedd

Disgrifiad: Ym mis Mawrth 2022 lansiodd y Disasters Emergency Committee (Cymru) apêl ddyngarol brys mewn ymateb i'r gwrthdaro yn Wcráin. Wrth i filiynau o bobl gael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi ymatebodd y Cymry a rhwng cyfraniadau Llywodraeth Cymru, y cyhoedd a busnesau o bob cwr o’r wlad codwyd dros £14 miliwn. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddysgu mwy am sut y mae’r arian wedi cael e ddefnyddio i achub, amddiffyn ac ailadeiladu bywydau yn Wcrain ac yn y gwledydd sy'n ei ffinio.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr