Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Price 300: Dathlu bywyd ac amserau Dr Richard Price
Dyddiad: Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023
Amser: 10.00 - 15.00
Lleoliad: Y Pierhead
Disgrifiad: Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu bywyd a gwaith Dr Richard Price, Llangeinwyr yn nhrichanmlwyddiant ei eni. Mae lle i ddadlau mai Dr Price yw deallusyn mwyaf Cymru, ac yn ail hanner y deunawfed ganrif, roedd ei gyfraniad i ddatblygiadau ym meysydd athroniaeth, gwleidyddiaeth, diwinyddiaeth a gwyddoniaeth yn anferthol, a hynny ar raddfa ryngwladol. Fel rhan o’r bartneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, bydd Dr Patrick Spero, Llyfrgellydd Cymdeithas Athronyddol America, yn annerch y digwyddiad ar gysylltiadau Dr Price â Benjamin Franklin a Thomas Jefferson. Hefyd, bydd sesiwn i arbenigwyr academaidd blaenllaw drafod gwaith oes Dr Price, ynghyd â thrafodaeth ag Aelodau o’r Senedd ar ei berthnasedd i’r dwthwn hwn.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr