Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu

Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Medi 2022

Amser: 10.00 - 15.00

Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Sefydlwyd Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu gan Joe Holness yn dilyn llofruddiaeth greulon ei gyd-swyddog yn Heddlu Caint, Jon Odell, ym mis Rhagfyr 2000. Yn ystod y digwyddiad blynyddol swyddogol hwn, cynhelir gwasanaeth coffa urddasol a sensitif i anrhydeddu dewrder ac aberth eithaf swyddogion yr heddlu ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r gwasanaeth, sy’n cylchdroi o amgylch pob un o’r pedair gwlad, yn cael ei gynnal ar y dydd Sul agosaf at 29 Medi. Mae hyn yn cyd-fynd â Gŵyl Mihangel Sant gan mai Sant Mihangel yn nawddsant swyddogion yr heddlu. Eleni cynhelir y gwasanaeth ddydd Sul 25 Medi 2022 yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, Belfast. Yn 2023, cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Mae Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu yn cael cefnogaeth y teulu brenhinol, y Llywodraeth a gwasanaethau heddlu’r DU. Adlewyrchir maint y diwrnod gan ei noddwr, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. I nodi diwrnod y cofio mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i oleuo Adeilad 1 Parc Cathays yn las, ac mae’r 4 Prif Gwnstabl yng Nghymru hefyd wedi cytuno i oleuo 4 adeilad Pencadlys Heddlu Cymru yn las. Cynhelir y digwyddiad i dynnu sylw at waith yr NPMD a’r Roll of Honour Trust ac i nodi 12 mis o gofio cyn y gwasanaeth yng Nghaerdydd yn 2022.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr