Digwyddiad
ARDDANGOSFA: Prosiect Llongau-U 1914-18
Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2019 i ddydd Sul 22 Rhagfyr 2019
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead
Disgrifiad: Dysgwch am gyfraniad Caerdydd i'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r etifeddiaeth barhaol a gafodd y gwrthdaro ar ein cymunedau. Mae'r Prosiect Llongau-U 1914-18 wedi bod yn fenter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a'r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol. Cefnogwyd y prosiect gan rwydwaith o amgueddfeydd morwrol, grwpiau cymunedol a hanes ledled Cymru, gan gynnwys y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant a Stori Caerdydd. Dyma’r cyfle olaf i weld yr arddangosfa deithiol hon sydd wedi ymweld ag un ar bymtheg o amgueddfeydd morwrol ledled Cymru.
Agored i’r cyhoedd: Ydy
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr