<OpeningPara>Y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am
drefnu Busnes y Senedd. Dyma’r unig Bwyllgor y disgrifir ei swyddogaethau a’i
gylch gwaith yn y Rheolau Sefydlog. Ei waith yw "hwyluso’r modd o drefnu
trafodion y Senedd yn effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1.<OpeningPara>
<OpeningPara>Y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd,
a bydd Arweinydd y Tŷ a rheolwr busnes o bob un o’r grwpiau gwleidyddol
eraill a gynrychiolir yn y Senedd hefyd yn bresennol. </OpeningPara>
Mae’r Pwyllgor fel arfer
yn cyfarfod yn breifat bob wythnos pan fydd y Senedd yn cyfarfod. Bydd yn rhoi
sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn penderfynu ar
drefn busnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddir cofnodion y cyfarfodydd
hyn ar ôl iddynt gael eu cytuno gan y Pwyllgor.
Gall y Pwyllgor ddewis
cyfarfod yn gyhoeddus ar sail ad hoc i wneud argymhellion ar weithdrefnau ac
arferion cyffredinol y Senedd wrth gynnal ei fusnes, gan gynnwys unrhyw
gynigion ar gyfer ail-wneud neu ddiwygio’r Rheolau
Sefydlog.
Bydd y cyfarfodydd hyn
yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau arferol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a
bydd croeso i’r cyhoedd eistedd yn yr oriel gyhoeddus i’w harsylwi. Mae
gwybodaeth am drefnu mynd i weld cyfarfod o’r Pwyllgor ar gael yn yr adran Mynd i
Gyfarfod Pwyllgor.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Busnes.
Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes
Amserlen y Cynulliad
Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis
sy'n:
- amlinellu
amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
- pennu'r
amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Senedd;
- pennu'r
amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
- rhestru'r
dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn.
Gweld Amserlen y
Senedd
Adran-Aelodau




