Un o bwyllgorau’r
Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld
yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Parhaodd y grŵp hwn tu hwnt i ddiwedd 2012 ac fe'i diddymwyd ar
26 Medi at 2013.
Mae’r negodiadau
ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi wedi’u cwblhau.
Parhaodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
i weithio ar y PAC yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.
Mai cylch gwaith
y Grŵp Gorchwyl a
Gorffen hwnnw yw ystyried effaith cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer
diwygio’r
Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru, gwneud argymhellion i Lywodraeth
Cymru ar y blaenoriaethau negodi a dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar y
polisi, ac roedd y Pwyllgor i gael ei ddiddymu heb fod yn hwyrach na diwedd
2012 neu unwaith y byddai’r negodiadau ar y cynigion deddfu ar gyfer y polisi
wedi’u cwblhau, pa un bynnag oedd gyntaf.
Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig
i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 17.17 gan:
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Trawsgrifiadau
cyfarfodydd