<OpeningPara>Sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys
cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch,
mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar
waith.</OpeningPara>
<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod
o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei
gadeirio gan Jenny Rathbone AS. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i
aelodau isod, ynghyd â'r rhestr lawn o'r meysydd y mae'n ymdrin â
nhw.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth
2026</news><link>ieListMeetings.aspx?CommitteeId=740</link>
<news>Ar 23 Ionawr 2026 ymatebodd Llywodraeth Cymru
i adroddiad craffu’r Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2026-2027</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45418</link>
<news>Ar 10 Rhagfyr, lansiodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei ymchwiliad i fynediad at fwyd iach,
maethlon a
fforddiadwy.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=46931</link>
<news>Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad:
“Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru): adroddiad Cyfnod 1 ar yr egwyddorion
cyffredinol”.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=46256</link>
<news>Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar
Cydlyniant Cymdeithasol– Cydweithredu dros Gwrthdaro: Rhaid i Gymru
Weithredu</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45053</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry>Mynediad at fwyd iach, maethlon a
fforddiadwy</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=46931</link>
<inquiry>Bil Iaith Arwyddion Prydain
(Cymru)</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=46256</link>
<inquiry>Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015: Gwaith craffu ar ôl
deddfu</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45792</link>
<inquiry>Y system cyfiawnder troseddol yng
Nghymru</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45872</link>
<inquiry>Cydlyniant
cymdeithasol</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=45053</link>
<inquiry>Cynllun Setliad yr
UE</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38194</link>
Dilynwch ni ar X:
@SeneddCydradd<link>https://X.com/SeneddCydradd</link>
>>>>
>>>Blaenraglen
waith<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37371</link>
>>>Trawsgrifiadau<link>http://cofnod.cynulliad.cymru/Search/?type=2&meetingtype=740</link>
>>>Gwaith a gyflawnwyd gan y
Pwyllgor<link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37386</link>
<<<
Cylch gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio
deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran
gwariant, gweinyddiaeth a pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod
yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant
cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a rhoi Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ar waith. Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i
unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl,
yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb
a hawliau dynol; a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.