Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad

Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau

 

Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau ar 22 Mehefin 2011. Rôl y Pwyllgor oedd cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 22. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • ymchwilio i gwynion a gyfeiriwyd ato gan y Comisiynydd Safonau;
  • ystyried unrhyw faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau;
  • sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion;
  • a threfnu Cofrestr Buddiannau’r Aelodau a chofnodion cyhoeddus perthnasol eraill a oedd yn ofynnol o dan y Rheolau Sefydlog.

 

Comisiynydd Safonau

Roedd Gerard Elias CF, Comisiynydd Safonau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn berson annibynnol a benodwyd gan y Cynulliad i roi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad. Mae ei ddeiliadaeth fel Comisiynydd Safonau yn mynd o 1 Rhagfyr 2010 tan 30 Tachwedd 2016.

 

Trawsgridiadau a’r ohebiaeth

 

Gwaith a gwblhawyd gan y

 

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod: