<OpeningPara> Y Pwyllgor Busnes oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Senedd. Ei waith oedd
"hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn effeithlon", fel y
nodir yn Rheol Sefydlog 11.1.
<OpeningPara>
<OpeningPara>Y Llywydd fyddai’n cadeirio’r
cyfarfodydd, a bydd y Trefnydd a rheolwr busnes o bob un o’r grwpiau
gwleidyddol eraill a gynrychiolir yn y Senedd hefyd yn bresennol.
</OpeningPara>
Newyddion
Gwybodaeth am y Pwyllgor
Busnes - Y Bumed Senedd
Mae’r Pwyllgor hwn o’r
Bumed Senedd wedi’i ddiddymu. Caiff pwyllgorau newydd eu ffurfio yn ystod y
Chweched Senedd
Y Pwyllgor Busnes oedd yn gyfrifol am drefnu Busnes y Senedd. Ei waith oedd "hwyluso’r modd o drefnu trafodion y Senedd yn
effeithlon", fel y nodir yn Rheol Sefydlog 11.1.
Y Llywydd fyddai’n
cadeirio’r cyfarfodydd, a byddai’r Trefnydd a Rheolwr Busnes o bob un o’r
pleidiau eraill a oedd yn cael eu cynrychioli yn y Senedd yn bresennol hefyd.
Fel arfer, byddai’r
Pwyllgor yn cyfarfod yn breifat bob wythnos y byddai’r Senedd yn cyfarfod.
Byddai’n rhoi sylwadau ar gynigion ar gyfer trefnu busnes y Llywodraeth ac yn
penderfynu ar drefn busnes y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Yn achos y cyfarfodydd
hyn, dim ond y cofnodion a’r agendâu fyddai’n cael eu cyhoeddi
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor
Busnes.
Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes
Amserlen y Senedd
Rhaid i'r Pwyllgor Busnes gyhoeddi amserlen bob chwe mis
sy'n:
- amlinellu
amserlenni'r Cyfarfod Llawn;
- pennu'r
amserau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau eraill yn y Senedd;
- pennu'r
amserau ar gyfer cyfarfodydd grwpiau gwleidyddol;
- rhestru'r
dyddiadau ar gyfer ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn.
Gweld Amserlen y Senedd