Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sian Thomas
Amseriad disgwyliedig: Preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
||
(09.30 - 10.00) |
Adolygiad o'r rhaglen waith bresennol a’r blaenoriaethau strategol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Adolygodd y Pwyllgor y gwaith y mae eisoes wedi’i
wneud a thrafododd y blaenoriaethau strategol a bennwyd ganddo yn ystod tymor
yr hydref 2016. |
|
(10.00 - 10.45) |
Blaengynllunio: y tymor byr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i weithgarwch
corfforol a phlentyndod. Bydd y cylch gwaith yn cael ei gwblhau yn y cyfarfod
ar 19 Gorffennaf, a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn hynny. 3.2 Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei gynlluniau ar gyfer
craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. |
|
(11.00 - 12.00) |
Blaengynllunio: y tymor canolig/hir Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Dechreuodd y Pwyllgor drafod ei gynlluniau ar gyfer
ymchwiliadau’r dyfodol a chytunodd i gwblhau’r cynigion yn ei gyfarfod ar 19
Gorffennaf. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor ganslo’i gyfarfod ar 13
Gorffennaf a gohirio’r trafodaethau ar ei adroddiad drafft am ofal sylfaenol
tan fis Medi. |