Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 1,
2, 4 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr
y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y diweddaraf am y cyhoeddiad ynghylch Grŵp Bwyd y 2 Sisters Cyf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru NDM5700
David Rees (Aberafan) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 17 Rhagfyr 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2015. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.17 NDM5700 David Rees (Aberafan) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5701
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau
bod targedau'r GIG yng Nghymru yn cael eu cwrdd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu 'gymryd' a
rhoi yn ei le: 'sicrhau bod ei
thargedau yn diwallu anghenion cleifion y GIG a chymryd' Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig: 'a datblygu'r
defnydd o fesurau deilliant a adroddir gan gleifion i fesur perfformiad yn y
GIG yng Nghymru.' Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddysgu gan Lywodraeth yr Alban, sydd wedi gweithredu gwelliannau mewn
perthynas ag amseroedd aros yn y GIG yn yr Alban dros y blynyddoedd diwethaf. Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y daeth
Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad yn ei adroddiad ar 'Amseroedd aros y GIG
ar gyfer gofal dewisol yng Nghymru' fod 'Lloegr a'r Alban yn perfformio'n well
yn erbyn targedau llymach' yn eu gwasanaethau iechyd. Mae adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru ar 'Amseroedd aros y GIG ar gyfer gofal dewisol yng
Nghymru' ar gael yn http://www.wao.gov.uk/cy/cyhoeddi/amseroedd-aros-y-gig-ar-gyfer-gofal-dewisol-yng-nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5701 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau bod targedau'r GIG yng Nghymru
yn cael eu cwrdd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5702
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi: a) bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd
un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn profi problem iechyd meddwl o fewn
unrhyw flwyddyn benodol; b) bod Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif y
cynrychiolir 20% o'r 'baich afiechyd' yn y DU gan salwch meddwl ond mai dim ond
11% o wariant y GIG sy'n cael ei wario ar iechyd meddwl; c) y gall problemau iechyd meddwl ryngweithio â chyflyrau
eraill i waethygu lles unigolyn ymhellach; d) yn ôl Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig, fod tri
chwarter o anhwylderau meddwl ymysg oedolion yn dod i'r amlwg erbyn iddynt
droi'n 21 oed, ond nad yw tri chwarter o'r plant a'r bobl ifanc sydd â'r
anhwylderau hyn wedi cael diagnosis neu gael eu trin; e) bod Stats Cymru wedi dangos bod pobl ifanc o dan 18
oed yn cynrychioli 85% o'r boblogaeth a wnaeth aros mwy na 18 wythnos ym mis
Rhagfyr 2014 rhwng cael eu hatgyfeirio a chael eu triniaeth gyntaf ar gyfer
problemau iechyd meddwl; f) y canfu gwaith ymchwil gan Mind na fyddai 1 o bob 3 o
weithwyr yn y DU yn gallu siarad yn agored â'u rheolwyr llinell am straen. 2. Yn croesawu gwaith ardderchog y trydydd sector o ran
codi ymwybyddiaeth o les iechyd meddwl. 3. Yn credu bod yn rhaid i fwy gael ei wneud i gefnogi
pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain. 4. Yn credu bod yn rhaid cael cydraddoldeb o ran y
pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a chorfforol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynnal astudiaeth i bennu pa gyllid ac adnoddau
ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru er
mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar wasanaethau iechyd
meddwl a chorfforol; b) ehangu seiciatreg gyswllt yn y GIG i ddarparu cymorth
gofal iechyd meddwl ar gyfer pobl sy'n cael eu trin ar gyfer problemau iechyd
corfforol; c) cynnig hyfforddiant cymorth iechyd meddwl a chyngor i
bawb sy'n gweithio'n agos gyda phlant; d) sicrhau bod pob athro dan hyfforddiant newydd yn cael
hyfforddiant cymorth iechyd meddwl sylfaenol fel rhan o'r statws athro
cymwysedig; e) sicrhau bod cyflogwyr yn sicrhau bod gweithleoedd yn
cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o iechyd meddwl. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.54 Oherwydd nam technegol gyda’r system feicroffonau, cafodd y trafodion eu
hatal am 17.18. Cafodd y gloch ei chanu cyn ailymgynnull am 17.30. NDM5702 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi: a) bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn profi
problem iechyd meddwl o fewn unrhyw flwyddyn benodol; b) bod Sefydliad
Iechyd y Byd yn amcangyfrif y cynrychiolir 20% o'r 'baich afiechyd' yn y DU gan
salwch meddwl ond mai dim ond 11% o wariant y GIG sy'n cael ei wario ar iechyd
meddwl; c) y gall problemau
iechyd meddwl ryngweithio â chyflyrau eraill i waethygu lles unigolyn
ymhellach; d) yn ôl Prif
Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig, fod tri chwarter o anhwylderau meddwl ymysg
oedolion yn dod i'r amlwg erbyn iddynt droi'n 21 oed, ond nad yw tri chwarter
o'r plant a'r bobl ifanc sydd â'r anhwylderau hyn wedi cael diagnosis neu gael
eu trin; e) bod Stats Cymru
wedi dangos bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cynrychioli 85% o'r boblogaeth a
wnaeth aros mwy na 18 wythnos ym mis Rhagfyr 2014 rhwng cael eu hatgyfeirio a
chael eu triniaeth gyntaf ar gyfer problemau iechyd meddwl; f) y canfu gwaith
ymchwil gan Mind na fyddai 1 o bob 3 o weithwyr yn y DU yn gallu siarad yn
agored â'u rheolwyr llinell am straen. 2. Yn croesawu
gwaith ardderchog y trydydd sector o ran codi ymwybyddiaeth o les iechyd
meddwl. 3. Yn credu bod yn
rhaid i fwy gael ei wneud i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl eu
hunain. 4. Yn credu bod yn
rhaid cael cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a
chorfforol. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) cynnal
astudiaeth i bennu pa gyllid ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer
darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y
pwyslais a roddir ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol; b) ehangu
seiciatreg gyswllt yn y GIG i ddarparu cymorth gofal iechyd meddwl ar gyfer
pobl sy'n cael eu trin ar gyfer problemau iechyd corfforol; c) cynnig
hyfforddiant cymorth iechyd meddwl a chyngor i bawb sy'n gweithio'n agos gyda
phlant; d) sicrhau bod pob
athro dan hyfforddiant newydd yn cael hyfforddiant cymorth iechyd meddwl
sylfaenol fel rhan o'r statws athro cymwysedig; e) sicrhau bod
cyflogwyr yn sicrhau bod gweithleoedd yn cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o
iechyd meddwl. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.49 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5703
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Adnabod eich prostad! Canser y prostad yng Nghymru - yr afiechyd cudd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.51 NDM5703 Andrew RT
Davies (Canol De Cymru) Adnabod eich prostad! Canser y prostad yng Nghymru - yr afiechyd cudd. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |