Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC ac Alun Ffred
Jones AC. 1.3
Croesawodd y Cadeirydd William Powell AC a oedd yn
dirprwyo ar ran Peter Black AC. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(Penderfynodd y Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, i gwrdd yn breifat ar gyfer eitem 3, 4, 5 a 6.) |
||
(09:05-09:15) |
Ystyriaeth Gychwynnol o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor
oblygiadau ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru). 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i roi tystiolaeth ar y Bil Llywodraeth Leol
(Cymru) ac i ysgrifennu at bob awdurdod lleol a fynegodd ddiddordeb i uno'n
wirfoddol i ofyn am wybodaeth ar y gost o lunio achosion busnes. |
|
(09:15-09:25) |
Ystyried Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chynllun Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2015-2016 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth
ynghylch y cynigion i ymgorffori Cynllun Blynyddol 2015-2016 Archwilydd
Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru mewn cynllun busnes tair
blynedd. Cytunodd y Pwyllgor i ymateb yn
ysgrifenedig gan ofyn i'r cynllun blynyddol barhau i gael ei gwblhau fel sy'n
ofynnol dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. |
|
(09:25-09:35) |
Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad - Ebrill-Rhagfyr 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad
Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad ar y cyfnod rhwng Ebrill a
Rhagfyr 2014. 5.2 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad
a chytunodd i ysgrifennu at Claire Clancy am ragor o wybodaeth. |
|
(09:35-10:15) |
Treth Trafodiadau Tir: Papur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr
y Trysorlys Andrew Hewitt, Rheolwr
Prosiect Polisi Treth Ddatganoledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cyflwynodd Llywodraeth Cymru
wybodaeth i’r Pwyllgor ar Dreth Trafodiadau Tir. |
|
(10:30-11:30) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5 Nicholas
Paines CF - Comisiynydd y Gyfraith sydd â chyfrifoldeb dros Cyfraith Gyhoeddus Beth
Gascoyne - Comisiwn y Gyfraith David
Connolly - Comisiwn y Gyfraith Adroddiad
gan Gomisiwn y Gyfraith ar yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei ymchwiliad i Ystyried Pwerau: Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
(11:30-12:15) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Sesiwn dystiolaeth 6 Tom Frawley
- Ombwdsmon Gogledd Iwerddon Adroddiad
Blynyddol Comisiynydd Cwynion ac Ombwdsmon Cynulliad Gogledd Iwerddon ar gyfer
2013-2014 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan Gomisiwn y Gyfraith ar ei ymchwiliad i Ystyried Pwerau: Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
(12:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 10 Cofnodion: 9.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:15-12:30) |
Ystyried pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth
a ddaeth i law. |