Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a chan Peter Black ar gyfer eitemau
1-5. |
||
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
||
Y Bil Addysg Uwch (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (30 Mehefin 2014) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Gwybodaeth ychwanegol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Dogfennau ategol: |
||
(09:00-09:45) |
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15 FIN(4)-14-14 (papur 1) Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Rhodri Glyn Thomas AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am
swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r ieithoedd swyddogol, y
gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth Craig Stephenson - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn Dros Dro, Cynulliad
Cenedlaethol Cymru Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y
Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi ieithoedd swyddogol y
Comisiwn, gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth, Craig Stephenson,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn dros dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a
Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb
ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15. |
|
(09:45-10:30) |
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15 Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Peter Black AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu
ac e-ddemocratiaeth; ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd. Dave Tosh - Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, Comisiynydd y
Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y
Cynulliad a chynaliadwyedd, Dave Tosh, Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol
Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch
cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6, 7 ac 8 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30-10:45) |
Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil PAC(4)-14-14(papur 2) Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Trais ar sail Rhywedd,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ateb cwestiynau ar
oblygiadau ariannol y Bil ar y cam hwn, ond y byddent yn ysgrifennu ati i ofyn
am eglurder ynghylch nifer o faterion. 6.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Christine Chapman AC, Cadeirydd y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i nodi nad yw'r Pwyllgor
Cyllid am wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y
byddai'n croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil. |
|
(10:45-11:00) |
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil FIN(4)-14-14(papur 3) Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y papur briffio ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru), gan gytuno na fyddent yn gwahodd y Gweinidog Cymunedau a
Threchu Tlodi i ateb cwestiynau ynghylch goblygiadau ariannol y Bil, ond y
byddent yn ysgrifennu ato i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion. 7.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid am wahodd
y Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor ar y cam hwn, ond y byddai'n
croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau ariannol y Bil. |
|
(11:00-11:30) |
Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol: Trafod yr adroddiad drafft FIN(4)-14-14 (papur 4) Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar
rai mân newidiadau. Nodwyd y byddai'n cael ei gyhoeddi ar 24 Gorffennaf. |