Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Anfonodd Sarah Murphy AS ei hymddiheuriadau. Roedd Vikki
Howells AS yn dirprwyo ar ei rhan. Nododd y Pwyllgor, yn dilyn ei phenodiad yn Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol ar 17 Mai 2024, fod Sarah Murphy AS wedi ymwrthod yn
ffurfiol â holl weithgarwch y Pwyllgor. Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol
yn unol â Rheol Sefydlog 17.49. |
|
(09.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Gwaith ymchwil allanol a gomisiynwyd gan Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y gwaith ymchwil allanol. |
||
Llythyr gan y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 10 Mai 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 16 Mai 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1334 Gwneud y Senedd yn Fwy Cynrychiadol o Boblogaeth Cymru - 16 Mai 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
(09.00-12.00) |
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): adroddiad drafft Dogfennau
ategol Papur 1 Adroddiad
drafft [Saesneg yn unig] Papur 2 Cyhoeddi
adroddiad Cyfnod 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar
fân ddiwygiadau i’w cytuno drwy e-bost. Cytunodd y Pwyllgor ar drefniadau ar gyfer cyhoeddi ei
adroddiad. |