Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2023 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

Croesawodd y Cadeirydd Jane Dodds AS, a oedd yn bresennol yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.

 

 

(09.30-10.30)

2.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Comisiwn Etholiadol

Y Fonesig Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol, Cymru

Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru

Tom Davies, Uwch Gynghorydd Polisi,Y Comisiwn Etholiadol, Cymru

 

Dogfennau ategol
Papur 1 Tystiolaeth ysgrifenedig: Y Comisiwn Etholiadol

Briff Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Etholiadol.
Cytunodd y Comisiwn Etholiadol i ddarparu:

  • Crynodeb o adroddiadau ac argymhellion y Comisiwn Etholiadol ar ddeisebau ar adalw sydd wedi digwydd o dan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015.
  • Copi o'r arweiniad y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei ddarparu i swyddogion cofrestru etholiadol mewn perthynas â phennu preswyliad at ddibenion cofrestru etholiadol.

 

 

(10.45 - 11.45)

3.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Bev Smith, Cadeirydd, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol
Papur 2 Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru [Saesneg yn unig]

Briff Ymchwil

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

 

(11.45)

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 9 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth.

 

4.2

Llythyr at gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Hydref 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.3

Llythyr at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 16 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

 

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45-11.55)

6.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(11.55 - 12.00)

7.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Briffio technegol

Dogfen ategol

Papur 3 Briff cefndir ychwanegol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y briffio cefndirol ychwanegol.

 

(12.00-12.05)

8.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Grŵp ffocws Senedd Ieuenctid Cymru – Nodyn drafft

Dogfen ategol
Papur 4 Nodyn drafft [Saesneg yn unig]

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân ddiwygiadau i’w cytuno drwy e-bost.

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r nodyn yn cael ei gyhoeddi.

 

 

(12.05 - 12.15)

9.

Blaenraglen waith

Dogfen ategol

Papur 5 - Blaenraglen Waith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith