Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2023 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

(09.30-10.30)

2.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion systemau etholiadol

Yr Athro Alistair Clark, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, Prifysgol Newcastle

Dr Jac Larner, Darlithydd Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol
Papur 1 Tystiolaeth ysgrifenedig: Yr Athro Alistair Clark [Saesneg yn unig]

Papur 2 Tystiolaeth ysgrifenedig: Dr Jac Larner [Saesneg yn unig]

Briff Ymchwil  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Alistair Clark a Dr Jac Larner.

 

(10.45-11.45)

3.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau diwygio etholiadol

Jess Blair, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru

Alberto Smith, Make Votes Matter

Dogfen ategol

Papur 3 Tystiolaeth ysgrifenedig: Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru [Saesneg yn unig]

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru a Make Votes Matter.

Cytunodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

·       Y gwaith modelu y mae wedi’i wneud mewn perthynas â chymhwyso cwotâu rhywedd ymgeiswyr i systemau etholiadol gwahanol ar gyfer etholiadau’r Senedd.

·       Unrhyw ystyriaeth y mae wedi’i gwneud o faterion sy’n ymwneud â’r posibilrwydd o fecanwaith i adalw Aelodau o’r Senedd.

 

(12.45-13.45)

4.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth ar y profiad diwygio etholiadol a ffiniau yn yr Alban

Yr Athro Ailsa Henderson, Cadeirydd, Boundaries Scotland

Malcolm Burr, Cynullydd, Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban

 

Dogfennau ategol

Papur 4 Tystiolaeth ysgrifenedig: Boundaries Scotland [Saesneg yn unig]

Papur 5 Tystiolaeth ysgrifenedig: Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban [Saesneg yn unig]

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Boundaries Scotland a Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban.


 

(14.00-14.30)

5.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg

Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

Dogfennau ategol
Papur 6 Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd y Gymraeg

Briff Ymchwil       
 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

(14.30)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd a ragwelir – 20 Hydref 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

6.2

Llythyr i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch y Bil cwotâu rhywedd a ragweli – 25 Hydref 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

6.3

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch y Bil cwotâu rhywedd a ragwelir – 1 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

6.4

Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 31 Hydref 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

6.5

Ymateb gan gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd – 2 Tachwedd 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(14.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd am weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.30-14.45)

8.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.