Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2023 - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cyd-Gadeirydd, Joyce Watson AS, yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09:30 - 09:35)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Gweddill y cyfarfod.

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09:35 - 10:30)

3.

Protocol cyd-gadeirio a ffyrdd o weithio'r Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau'r protocol ar gyfer trefniadau cyd-gadeirio.

3.2 Nododd yr Aelodau'r Rheol Sefydlog dros dro arfaethedig ar gyfer y Pwyllgor Diben Arbennig Covid.

3.3 Trafododd yr Aelodau rôl a chylch gwaith y Pwyllgor a chytunwyd i olrhain gwaith ymchwiliad cyhoeddus y DU yn agos a dechrau cael cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer ei waith. Cytunodd y Pwyllgor i ailymgynnull ym mis Medi i ddatblygu amserlen ar gyfer ei waith.