Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan John
Griffiths. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
||
(09:30-09:45) |
Cylch Gorchwyl yr Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr
Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau, fel y’i drafftiwyd. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
(09:45-10:00) |
Rheolau Diwygiedig Grwpiau Trawsbleidiol Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y rheolau diwygiedig, yn
amodol ar un newid bach ac unrhyw waith tacluso ychwanegol sydd ei angen. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried adroddiad byr ar y
rheolau diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10:00-10:15) |
Adborth ar y weithdrefn ddiwygiedig ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth a chytunwyd i
ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf, lle byddent yn cael adborth gan y
Comisiynydd Safonau. |
|
(10:15-10:20) |
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). |