Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/12/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. 1.2
Anfonodd Natasha Asghar ei hymddiheuriadau,
roedd Peter Fox yn bresennol yn ei lle. |
||
(9.30-10.10) |
Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 1 Naomi Williams –
Cadeirydd, Materion Cyhoeddus Cymru Gemma Roberts - Materion
Cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo gyda swyddogion Materion
Cyhoeddus Cymru. |
|
(10.15-10:55) |
Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 2 Ben Lloyd – Pennaeth Polisi,
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor lobïo gyda Phennaeth Polisi
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i
wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
||
Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
||
Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y papurau a chytunwyd ar fân
newidiadau i'r rheolau ar Grwpiau Trawsbleidiol. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater o isafswm
nifer yr Aelodau ym mhob Grŵp Trawsbleidiol wrth
baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd. 6.3 Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r papurau eto yn y
cyfarfod nesaf, gan fod dau Aelod wedi gadael y cyfarfod, felly nid oedd
cworwm. |
||
Papur i’w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |